Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2017
Amser: 09.04 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd
TV yn:
http://senedd.tv/cy/3850
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Nicola Charles, Llywodraeth Cymru Paul Webb, Senior Responsible Officer, Trade Union (Wales) Bill |
Staff y Pwyllgor: |
Christopher Warner (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC.
1.3 Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y bobl ganlynol:
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Paul Webb, Uwch Swyddog Cyfrifol, Bil yr Undebau Llafur (Cymru)
Nicola Charles, Cyfreithiwr
3.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Bwyllgor Menywod a Chydraddoldeb Tŷ’r Cyffredin - Ensuring strong equalities legislation after the EU exit
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â thlodi yng Nghymru.
3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.
3.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.
3.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.
3.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
3.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem2.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ynghylch Bil yr Economi Ddigidol.